OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 285 (Cy. 49)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2917) (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn gweithredu Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t1) (“y Gyfarwyddeb”) sy'n ei gwneud yn ofynnol bod Aelod-wladwriaethau'n codi ffioedd i dalu costau'r gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd a nodir yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb.
Mae Atodlen 2 i'r prif Reoliadau yn nodi'r ffioedd cyfradd ostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion sy'n ddarostyngedig i arolygiadau llai aml y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn a ddarparwyd ar eu cyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi Atodlen 2 newydd yn lle'r un bresennol yn y prif Reoliadau i roi effaith i'r cytundeb diweddaraf gan Bwyllgor Sefydlog yr UE ar Iechyd Planhigion mewn perthynas â ffioedd cyfradd ostyngol. Mae'r gyfradd arolygu ar gyfer Malus o Tsieina wedi cynyddu o 25% i 50% gyda chynnydd cyfatebol mewn ffioedd. Nid yw Mangifera o Brasil a Citrus o Honduras yn gymwys bellach i ffioedd cyfradd ostyngol, gan eu bod yn ddarostyngedig i amlder arolygiadau o 100% ac yn unol â hynny mae'r ffioedd yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau wedi eu cymhwyso i'r llwythi hyn. Mae pob cyfradd arolygu arall, a'r ffioedd yn unol â hynny, wedi gostwng.
Rhagwelir y bydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith ar y sectorau preifat neu wirfoddol, ond ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol, gan eu bod yn gweithredu yn unol â newidiadau blynyddol mewn ffioedd â lefel rhagderfynedig yn hytrach na newidiadau sylfaenol i'r gyfundrefn reoleiddiol ei hun.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 285 (Cy. 49)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 2 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 7 Chwefror 2012
Yn dod i rym 29 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([2]).
Enwi cymhwyso a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Diwygio) 2012. Deuant i rym ar 29 Chwefror 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010
2. Yn lle Atodlen 2 i Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2010([3]), rhodder—
“ATODLEN 2 Rheoliad 4(1)(a)(ii) a 4(2)(b)
Ffioedd Arolygu Mewnforio (Cyfraddau Gostyngol)
Colofn 1 Genws |
Colofn 2 Nifer |
Colofn 3 Gwlad tarddiad |
Colofn 4 Ffi am bob llwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£) |
Colofn 5 Ffi am bob llwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£) |
Blodau wedi eu torri |
|
|
|
|
Dianthus |
—hyd at 20,000 o ran nifer |
Colombia |
0.71 |
1.06 |
Ecuador |
1.42 |
2.14 |
||
Kenya |
0.71 |
1.06 |
||
Twrci |
3.57 |
5.35 |
||
—am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny |
Colombia |
0.005 Hyd at uchafswm o 5.71 |
0.007 Hyd at uchafswm o 8.56 |
|
Ecuador |
0.01 Hyd at uchafswm o 11.42 |
0.02 Hyd at uchafswm o 17.13 |
||
Kenya |
0.005 Hyd at uchafswm o 5.71 |
0.007 Hyd at uchafswm o 8.56 |
||
Twrci |
0.03 Hyd at uchafswm o 28.57 |
0.04 Hyd at uchafswm o 42.85 |
||
Rosa |
—hyd at 20,000 o ran nifer |
Colombia |
0.42 |
0.63 |
Ecuador |
0.42 |
0.63 |
||
Ethiopia |
0.71 |
1.06 |
||
Kenya |
0.71 |
1.06 |
||
Tanzania |
1.42 |
2.13 |
||
Uganda |
3.57 |
5.35 |
||
Zambia |
3.57 |
5.35 |
||
—am bob 1,000 o unedau ychwanegol neu ran o hynny |
Colombia |
0.003 Hyd at uchafswm o 3.42 |
0.004 Hyd at uchafswm o 5.13 |
|
Ecuador |
0.003 Hyd at uchafswm o 3.42 |
0.004 Hyd at uchafswm o 5.13 |
||
Ethiopia |
0.005 Hyd at uchafswm o 5.71 |
0.007 Hyd at uchafswm o 8.56 |
||
Kenya |
0.005 Hyd at uchafswm o 5.71 |
0.007 Hyd at uchafswm o 8.56 |
||
Tanzania |
0.01 Hyd at uchafswm o 11.42 |
0.02 Hyd at uchafswm o 17.13 |
||
Uganda |
0.02 Hyd at uchafswm o 28.57 |
0.03 Hyd at uchafswm o 42.85 |
||
Zambia |
0.02 Hyd at uchafswm o 28.57 |
0.03 Hyd at uchafswm o 42.85 |
||
Citrus |
—hyd at 25,000 kg o ran pwysau |
Yr Aifft |
2.14 |
3.21 |
Israel |
1.42 |
2.14 |
||
Mecsico |
2.14 |
3.21 |
||
Moroco |
0.71 |
1.06 |
||
Periw |
3.57 |
5.35 |
||
Twrci |
0.42 |
0.63 |
||
Uruguay |
2.14 |
3.21 |
||
UDA |
2.14 |
3.21 |
||
—am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Yr Aifft |
0.08 |
0.12 |
|
Israel |
0.05 |
0.08 |
||
Mecsico |
0.08 |
0.12 |
||
Moroco |
0.02 |
0.03 |
||
Periw |
0.14 |
0.21 |
||
Twrci |
0.01 |
0.02 |
||
Uruguay |
0.08 |
0.12 |
||
UDA |
0.08 |
0.12 |
||
Malus |
—hyd at 25,000 kg o ran pwysau |
Yr Ariannin |
1.42 |
2.13 |
Brasil |
2.14 |
3.21 |
||
Chile |
0.71 |
1.07 |
||
Tsieina |
7.14 |
10.71 |
||
Seland Newydd |
1.42 |
2.13 |
||
De Affrica |
0.71 |
1.07 |
||
UDA |
3.57 |
5.35 |
||
—am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Yr Ariannin |
0.05 |
0.08 |
|
Brasil |
0.08 |
0.12 |
||
Chile |
0.02 |
0.04 |
||
Tsieina |
0.28 |
0.42 |
||
Seland Newydd |
0.05 |
0.08 |
||
De Affrica |
0.02 |
0.04 |
||
UDA |
0.14 |
0.21 |
||
Passiflora |
—hyd at 25,000 kg o ran pwysau |
Colombia |
1.42 |
2.13 |
Kenya |
1.42 |
2.13 |
||
De Affrica |
7.14 |
10.71 |
||
Zimbabwe |
4.99 |
7.48 |
||
—am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Colombia |
0.05 |
0.08 |
|
Kenya |
0.05 |
0.08 |
||
De Affrica |
0.28 |
0.42 |
||
Zimbabwe |
0.19 |
0.28 |
||
Phoenix |
—hyd at 100 kg o ran pwysau |
Costa Rica |
4.99 |
7.49 |
|
—am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Costa Rica |
0.49 Hyd at uchafswm o 39.98 |
0.74 Hyd at uchafswm o 59.97 |
Prunus |
—hyd at 25,000 kg o ran pwysau |
Yr Ariannin |
4.99 |
7.48 |
Chile |
1.42 |
2.13 |
||
De Affrica |
1.42 |
2.13 |
||
Twrci |
1.42 |
2.13 |
||
UDA |
1.42 |
2.13 |
||
—am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Yr Ariannin |
0.19 |
0.28 |
|
Chile |
0.05 |
0.08 |
||
De Affrica |
0.05 |
0.08 |
||
Twrci |
0.05 |
0.08 |
||
UDA |
0.05 |
0.08 |
||
Pyrus |
—hyd at 25,000 kg o ran pwysau |
Yr Ariannin |
1.42 |
2.13 |
Chile |
3.57 |
5.35 |
||
Tsieina |
4.99 |
7.48 |
||
De Affrica |
1.42 |
2.13 |
||
—am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Yr Ariannin |
0.05 |
0.08 |
|
Chile |
0.14 |
0.21 |
||
Tsieina |
0.19 |
0.28 |
||
De Affrica |
0.05 |
0.08 |
||
Solanum melongena |
—hyd at 25,000 kg o ran pwysau |
Twrci |
1.42 |
2.13 |
—am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynny |
Twrci |
0.05 |
0.08”. |
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
2 Chwefror 2012